Dechrau eto

Awst 28, 2015 20:25 gan ceribethlem

Cefais fy atgoffa o’r blog yma yn ddiweddar, ac o’r diwedd rwyf wedi darganfod fy nghyfrinair!

Byddaf (gobeithio) yn dechrau postio eto ar Saiffai yn y dyfodol agos.

Gwd nawr.

Ceribethlem

28 weeks later

Mai 23, 2007 16:20 gan ceribethlem

Es i weld hwn wthnos dwetha, a joies i mas draw. Mae’n ffilm hyd yn oed mwy gruesome na 28 days later. Sdim o’r cymeriadau o’r un cyntaf yn dychwelyd, felly parhau a’r thema yn hytrach na’r stori gwreiddiol oedd y ffilm yma. Ffilm da, gydag effeithiau ac actio da. Odd rhywbeth bach ar goll yn rhywle. Odd rhyw deimlad gyda fi fod hon yn rhyw rip-off braidd o Aliens. Ond fel wedes i odd e’n ffilm nes i fwynhau’n arw.

Un peth nath mynd ar nerfe fi oedd y continuity. Fi’n rhywfaint o continuity freak, a mae’n gas gyda fi rhywbeth sy’n torri ar draws continuity ffilm neu stori o unrhyw fath. Peidiwch a darllen y gweddill os nad ydych wedi gweld y ffilm hyd yma.

Yn y ffilm gwreiddiol fe ddatblygodd pobl yr “afiechyd” rage am fod tsimpansi wedi cnoi’r ferch ar ddechrau’r rhaglen. Yn yr ail ffilm fe ddywedodd un o’r cymeriadau fod yr afiechyd wedi ei glirio am fod pawb odd yn dioddef o’r afiechyd wedi marw, ac ei fod yn methu pasio mewn i anifeiliaid.

Yr ail twll oedd, yn y ffilm gwreiddiol dywedwyd mai Prydain oedd yr unig le oedd yn dioddef o’r afiechyd, a’i fod mewn cwarantin. Dywedwyd (neu awgrymwyd ddim yn cofio’n gywir) fod Efrog Newydd a Pharis yn glir o’r afiechyd. Yn y ffilm gwreiddiol nodwyd yn hollol glir fod outbreaks o’r afiechyd wedi bod yn y ddau le.

 Ar y cyfan pethau bach i freak fel fi oedd rhain. Os chi’n hoffi ffilmie arswyd, mae’n werth ei weld.

Dune: y gyfres teledu v Ffilm David Lynch

Chwefror 13, 2007 16:41 gan ceribethlem

Ymddiheuriadau am beidio ag ysgrifennu dim ar y wefan yma ers dipyn. Gwaith wedi bod yn wyllt braidd, ac fi wedi cael adeiladwyr a phlymwyr mewn yn Bethlem Bach. Ta beth, yn ddiweddar ‘wy wedi bod yn hurio’r gyfres deledu Dune o Amazon. Sbel fach yn ol fe wedes i mai Dune oedd (yn fy marn i) ymysg y llyfrau ffug-wyddonol gorau erioed. Fi’n parhau i gredu hyn. Wrth wylio’r gyfres deledu nes i benderfynnu ddechrau ei chymharu hi gyda’r ffilm gan David Lynch.

Mae yna nifer o wendidau gyda’r ffilm, yn bennaf bod cymaint o’r plot wedi ei dynnu mas ac fod rhannau arall wedi newid. Fi ddim yn gwybod beth oedd pwrpas yr arf oedd yn diffetha petha drwy pwer y llais. Oedd y syniad o eiriau gyda pwer iddynt yn un dipyn mwy subtle yn y llyfr. Serch hynny mae yna nifer o gryfderau i’r ffilm. Mae’r cymeriadau yn edrych ac yn swnio’n “iawn”, ac mae rhai o’r set-pieces yn odidog. Ar y cyfan mae’n ffilm weddol fach, ond wedi darllen y llyfr mae’n siomedig iawn.

Ymlaen at y gyfres deledu felly. Mae hwn yn rhyw fath o ddrych i’r ffilm. Mae’n dilyn y llyfr yn agos, ac oherwydd natur teledu mae’r pwyntaiu mwy subtle, megis y gwleidyddiaeth yn fwy effeithiol ynddi. Y trueni yw fod cymaint o’i le ynddi. Mae’r mwyafrif o’r cymeriadau yn “anghywir”. Mae Gurney Halleck yn warthus, ac does dim unrhyw deimlad fod Paul Muad ‘Dib ar y trothwy o rhywbeth mawr iawn. Mae rhai o’r effeithiau yn warthus, yn amlwg mae green screen neu backdrop wedi’i beintio sydd yna! Mae hyn yn golygu ei fod yn anos i gadw hygrydedd yn y stori. Prif beth da y ffilm yw cymeriad y Baron Harkonnen sydd bron iawn yn berffaith.

 Pe gellid cyfuno rhannau gorau’r ffilm gyda rhannau gorau’r rhaglen deledu, efallai byddwn yn cyrraedd rhywle. Oes gan unrhywun rif ffon Peter Jackson? Bydde neb gwell na fe am droi Dune i fewn i epic 3 ffilm o hyd!

Christopher Priest

Tachwedd 7, 2006 19:26 gan ceribethlem

I’r sawl ohonoch sydd yn darllen y wefan yma yn rheolaidd, fe sylwch mai llyfrau gwyddonias yw un o’m prif ddiddordebau. Rwyf wedi son am nifer o awduron yn y gorffennol, ond am rhyw rheswm heb son am Christopher Priest, er ei fod yn un o’m hoff awduron. Y llyfr cyntaf i mi ei ddarllen gan Christopher Priest oedd A Dream of Wessex, rhyw fath o virtual reality a gafwyd cyn i’r Matrix ei wneud braidd yn passe. Rwyf hefyd wedi darllen The Extremes, Inverted World, Fugue for a Darkening Isle, The Space Machine (oedd yn rhyw fath o sequel i The Time Machine, a War of the Worlds gan H G Wells), a The Dream Archipelago. Mi wnes i fwynhau pob un, er teimlais braidd yn anghyffyrddus gyda’r pwnc hiliol yn Fugue for a Darkening Isle.

Ond y llyfr hoffwn son amdani fan hyn yw The Prestige, er nad ydwyf wedi ei ddarllen! Un o’r llyfrau yr wyf wedi bwriadu ei ddarllen ers tro byd, ond am rhyw rheswm heb gyrraedd yno hyd yma! Nawr mae’r ffilm yn cael ei ryddhau, sy’n serenu Christian (Batman) Bale a Hugh (Wolverine) Jackman, ac yn cael ei lywio gan Christopher (Memento, Batman Begins) Nolan. Rwy’n mwynhau gwaith y ddau brif actor ac yn hoff iawn o ffilmiau (prin) y cyfarwyddwr, felly mae gweld y ffilm yma yn mynd i fod yn dipyn o achlysur i mi! Am y rheswm yma rwyf wedi penderfynnu osgoi’r llyfr am y tro. Gan amlaf pan yn darllen yn llyfr ac yna’n gweld y ffilm rwy’n credu fod y ffilm heb fyw lan i safonau’r llyfra, ac fod lawer o bethau yn ymddangos yn “anghywir” yn y ffilm. Y tro hwn felly byddaf yn gwylio’r ffilm yn gyntaf heb i’r dychymyg cael ei lywio gan ddoniau ysgrifennol Christopher Priest.

Mae cyfweliad diddorol gyda Christopher Priest yn bodoli fan hyn.

A Sound of Thunder

Tachwedd 1, 2006 14:08 gan ceribethlem

Stori fer gan Ray Bradbury yw A Sound of Thunder. Stori am ddyn yn mynd nol i’r gorffennol i hela Dinosor. Yn y gorffennol mae rhywbeth yn mynd o’i le sy’n effeithio ar y presennol. Syniad digon cyffredin bellach. Ysgrifennwyd hi gan Ray Bradbury yn y 50au, ac mae dull ysgrifennu Ray Bradbury yn llwyddo i sicrhau fod y stori fer yma yn sicrhau lond cystal effaith hanner canrif ar ol ei hysgrifennu.

Y peth amlwg i’w wneud yw rhyddhau’r stori yma ar ffurf ffilm, yn arbennig yn dilyn llwyddiant yr effeithiau arbennig ar y deinosors yn nhrioleg Jurassic Park. Sylwais fod y ffilm i’w rhentu yn y siop rhentu DVD’s cyfagos, felly dyma fi’n talu fy nhair punt amdani a mynd adre yn barod i’w gweld. Un gair o gyngor sydd gen i ynglyn a gwylio’r ffilm yma.

Peidiwch

Roedd yr effeithiau arbennig yn rhwybeth, ond nid arbennig o dda mohonynt. Ar ol gweld yr effeithiau gwych a gafwyd yn Jurassic Park rhyw ddeng mlynedd yn ol, roedd rhain yn warthus. Roedd yr effeithiau yn y gyfres Walking with Dinosaurs yn well! Roedd y plot yn un gwarthus, yn llawn tyllau anferth, amlwg. Pan gwnaed y camgymeriad yn y gorffennol (sef sefyll ar iar fach yr haf – fel yn y stori gwreiddiol), ni newidwyd y presennol yn syth, ond yn hytrach roedd y newidiadau’n dod mewn tonnau. Yn ol y ddamcaniaeth yma, y rhywogaeth ola i gael eu newid bydda’i rhai olaf i esblygu (duw a wyr pam??) felly dynoliaeth yw’r olaf i newid (handi!). Pan mae’r fenyw yn newid i rhyw feth o squid dynol, mae hi dal i sefyll mewn adeilad mawr wedi ei hadeiladu gan ddynoliaeth. O ble ddaeth yr adeilad felly?

Ffilm gachu, gyda phlot gachu, actio cachu ac effeithiau gachu. Peidiwch a gwastraffu’ch amser ar y fath dwlu!

Torchwood

Hydref 23, 2006 17:00 gan ceribethlem

Pan yn son am rhaglen Nadolig Dr Who yn gynharach yn y flwyddyn, soniais am y ffordd yr oedd y rhaglen wedi rhoi rhyw fath o nod and a wink i’r rhaglenni Nadolig (Star Wars yn bennaf) a fu mlaen pan oeddwn yn blentyn. Bellach a finnau wedi gweld y ddau rhaglen cyntaf o Torchwood, dyma fi’n dechrau tybio ai diffyg dychymyg Russell T Davies yw’r broblem? Roedd y rhaglen yma i weld yn un derivative iawn i fi.

Yn y rhaglen cyntaf, roedd un o’r prif gymeriadau (Gwen) wedi gweld a chlywed rhywbeth na ddylai ei weld na chlywed. Hwn yn atgoffa dyn o’r rhaglen cyntaf yn y gyfres Buffy the Vampire Slayer, lle mae Xander yn gorglywed Buffy a Giles yn trafod.

Mae hi wedyn yn cwrdd a prif berson rhyw gymdeithas cudd sy’n cymryd pethau aliens ac yn eu defnyddio “er lles” dynoliaeth. Hmmm, cymeriad Will Smith yn Men in Black unrhywun?

Tua diwedd y rhaglen dyma gymeriad, oedd wedi ymddangos y byddai’n prif gymeriad, yn marw. Eto, rhywbeth wnaeth Joss Whedon yn rhaglen cyntaf Buffy trwy ladd y cymeriad Jessy, ac wedi ei wneud gyda Doyle yn ystod y gyfres cyntaf o Angel.

Roedd llawer o’r golygfeydd, o uwchben dinas Caserdydd yn atgoffa dyn am y dull o ffilmio cafwyd yn Angel yn arbennig. Pe bawn i’n crynhoi’r rhaglen cyntaf gellid dweud mai tri chwarter Joss Whedon ac chwarter Men in Black gydag ychydig o arddull Belonging gyda’r acenion a’r rhegi.

Ymlaen wedyn at yr ail raglen, rip-off arall oedd hwn yn fy marn i, y tro hwn dwyn un o storiau The Outer Limits. Yn y stori yma mae cymeriad o’r enw Carys (fel Alyssa Milano yn The Outer Limits) yn cael rhyw alien yn cymryd dros ei bywyd, ac yn mynd rownd yn shelffo pobl! Yr unig peth am y stori wreiddiol oedd y ffaith bod Alyssa Milano mor brydferth, doedd y stori ddim yn un arbennig o ddiddorol nac ychwaith yn un arbennig o wreiddiol. Felly yn fy marn i fe wnaeth Russell T rip-off o rhywbeth oedd yn eithaf second-rate i ddechrau!

Fi’n mawr obeithio fod y pethau yma wedi eu gwneud ar bwrpas i greu rhyw fath o sioc, a profi mae rhwybeth gwahanol i Dr Who ydyw. Os nad yw pethau’n gwella o fewn rhyw 3 rhaglen, wedyn wnai ddim ffwdanu gyda gweddill y gyfres!

Ffilmiau Arswyd rhad

Hydref 20, 2006 16:03 gan ceribethlem

Rwyf fi yn ffan mawr o ffilmiau arswyd sydd a cylli isel, ac wedi bod ers i mi weld yr anfarwol Evil Dead a Bad Taste pan yn fyfyriwr.

Yn ddiweddar fe ges i deledu lloeren wedi osod yn y ty, ac yn edrych mlaen yn fawr i weld rhai o’r ffilmiau yma ar y sianel Zone Horror. Dyma’r ffilm bues i’n aros am cyhyd yn dod mlaen wythnos neu ddau nol. Vampires vs Zombies. Gwych meddyliais i’m hun, a dyma fi’n ymgartrefi ar y soffa. Am sioc! Nid ffilm o safon Evil Dead, nac ychwaith Bad Taste oedd hi, ond hytrach rhywbeth rhyfedd iawn, ffilm amlwg yn rhad tu hwnt, ond dim llawer o blot iddi chwaith, lot o yrru o gwmpas a lladd ar hap. Falle ddylen i gael pip arall arni cyn penderfynnu os oedd hi’n dda neu beidio.

Ffilm arall oedd ar y sianel Zone Horror yn ddiweddar oedd Nude for Satan. Wrth weld yr enw roeddwn yn benderfynnol fy mod am ei hoffi. Yn anffodus bu rhaid i mi newid fy meddwl ar ol ei gwylio, cachu di-sens oedd hi. Fe’m siomwyd.

A Cantickle for Leibowitz – Walter M. Miller jr

Medi 7, 2006 18:31 gan ceribethlem

Mae Walter M. Miller jr yn fwy adnabyddus am ei storiau byrion nac am ei nofelau. Yn wir dim ond dau nofel y mae wedi eu hysgrifennu, sef A Cantickle for Leibowitz lle ennillodd Miller y wobr Hugo, a’r ail lyfr yn y gyfres sef St Leibowitz and the Wild Horse Woman. Cyhoeddwyd yr ail nofel wedi iddo farw ym 1996. Rhaid cyfaddef nad ydwyf wedi darllen yr ail hyd yma, yn bennaf am nad ydwyf wedi ei weld mewn siopau llyfrau cyfagos.

Llyfr Post-apocalyptic yw’r nofel yma, wedi ei hamseru yn dilyn rhyw gyflafan enfawr. Er nad yw’n dweud yn union beth oedd y gyflafan, yr awgrym yw taw’r defnydd o arfau niwclear oedd yn gyfrifol.

Mae’r llyfr yn dechrau drwy ddilyn mynachod sy’n gyfrifol am geisio cadw’r holl lyfrau a’r gwybodaeth yn ddiogel yn ystod yr oes dywyll sy’n dilyn y gyflafan. Mae’r llyfr yn neidio ymlaen bob hyn a hyn wrth i dechnoleg y byd cael ei ail-greu, ond yr un problemau rhyfelgar sy’n peri problemau i’r byd.

Neges afrwynebol syml sydd i’r llyfr, mae angen i bobl newid eu hagweddau i fedru cael undod bydol.

Llyfr arbennig o dda yn fy marn i, llawn gwerth ei ddarllen.

The Snow – Adam Roberts

Medi 6, 2006 20:30 gan ceribethlem

Rwyf wedi son ar Bodio’r Bydysawd am y ffordd yr wyf yn hoff o ddarllen. Rwy’n hoff iawn o ddarganfod awdur newydd mewn llyfrgell, am un peth mae’n meddwl does dim risg, yn aml pan fyddaf yn edrych ar lyfrau mewn siop byddaf yn tueddu i brynu awdur yr wyf yn ei adnabod.
Dros yr haf ges i The Snow gan Adam Roberts mas o lyfrgell Clydach. Fe ddechreuodd mas fel rhwy fath o lyfr post-apocalyptic. Ac un arbennig o dda meddyliais wrth i mi ei ddarllen.
Dechreuodd y llyfr wrth i fenyw yn Llundain son am yr eira mawr yn parhau a pharhau. A’r steil yma yn parhau am cryn dipyn, heb unrhyw eglurhad o pham na sut y daeth yr eira mawr. Newidiodd steil y llyfr am ychydig wedyn, ac roedd y stori yn rhoi cefndir gwyddonol i’r eira mawr yma, fel pe bai’r darllenwr yn darllen dogfen gan wyddonydd neu lywodraeth. Nol a ni wedyn i’r dull gwreiddiol, a’r fenyw o Lundain bellach yn byw mewn dinas ar wyneb yr eira.
Am dros dri chwarter o’r nofel roeddwn yn meddwl ei fod yn lyfr gwych. Llyfr o wyddonias caled, meddylgar.
Yna siom mawr, gorffennodd y llyfr gyda eglurhad mae aliens oedd yn gyfrifol!

Fi’n hoff o lyfrau gyda aliens ynddyn nhw. Gellir cael social commentary dilys megis War of the Worlds gan y meistr Herbert George Wells; neu fe ellir cael stori antur cyflym llawn cyffro, megis storiau Iain M. Banks. Mae eraill wedyn, Arthur C. Clark a Stephen Baxter er enghraifft yn tueddu i ysgrifennu gwyddonias caled, wedi selio ar bosibiliadau gwyddonol. Yn fy marn i mae lle i’r ddau math o lyfr, ond nid rhyw gymysgedd rhyfedd fel y cafwyd yn The Snow gan Adam Roberts. Trueni mawr, achos pan ddechreuais ei ddarllen tybiais fy mod wedi darganfod awdur newydd o safon.

David Gemmell – parhad

Medi 5, 2006 20:51 gan ceribethlem

Mas o ddiddordeb, y diweddaraf i mi glywed am y drydedd nofel yn nhrioleg Gemmell am Troy yw ei fod wedi cwblhau 70,000 o eiriau, ac ei fod wedi creu crynodeb o’r hyn sydd i ddigwydd yn y pennodau eraill. Mae’n debyg fod y cwmni cyhoeddi wedi trefnu gyda Sylvia Gemmell (gwraig David Gemmell) y bydd hi’n cwblhau’r gwaith yma.