Dechrau

Helo a chroeso i Bodio’r Bydysawd, gwefan i ddathlu Gwyddonias/ Ffuglen gwyddonol trwy gyfrwng y gymraeg. Y mae’r seiat yn newydd sbon ac felly nid oes llawer arni ar hyn o bryd ond gobeithiwn, hefo eich cefnogaeth chi, y bydd hi fel mos eisley yma erbyn y flwyddyn newydd!

Danfonwch storiau fer gwyddonias, sylwadau ac erthyglau i ni yma a chawn ddechrau pennod newydd ym myd ffuglen gwyddonol….y dimensiwn Cymraeg – gawn i weld be’ sy’ allan yna – engage!

2 Sylw i'r cofnod “Dechrau”

  1. Meddai Nwdls:

    Syniad gwych, hoffi pryd a gwedd y blog a’r lliwiau du a glas.

    Be am linc i http://www.h2g2.com – yr ymgais ar lyfryn bodio’r bydysawd go iawn!

    Edrych mlaen i darllen y cynnwys ond gwnewch yn siwr fod hwn ddim yn troi i fod yn flog Dr Who yn hytrach na blog gwyddonias 😉

  2. Meddai Nwdls:

    Wedi i fi bostio’r cofnod, gweld fod y gwyn ar lwyd yn brifo’n llygid chydig bach a bod dim posib mynd nol i’r dudalen flaen heb wasgu ‘back’. Jest awgrym ‘lly.