Shadow Warrior - Chris Bunch
Yn ddiweddar, ddarllenais i gyfres Shadow Warrior gan Chris Bunch. Trioleg am rhyw foi oedd yn byw yn ystod rhyfel bydysawdol. Mae’r llyfr yn dechrau ychydig wedi terfyn y rhyfel rheng dynoliaeth a’r Al’ar.
Y peth cyntaf yw enw’r aliens ‘ma. Beth yw’r obsesiwn sydd gyda awduron gwael i gael collnod yng nghanol popeth. A dweud y gwir, nes i lunio damcaniaeth, wrth i’r nifer o gollnodau yn enw’r aliens gynyddu, mae safon yn llfr yn gwaethygu. Yr Inverse Bolycs Law byddai’n ei galw hi.
Un collnod sydd fan hyn, felly faint o folycs? Yn anffodus llyfr gwan yw hi. Mae’r prif gymeriad (Joshua Wolfe) yn rhyw fath o James Bond rhyng-alaethol, yn shelffo’i ffordd o fyd i fyd. Ddim yn agor unrhyw ddrysau nas agorwyd cynt felly. Wedyn mae rhyw bullshit am y ffordd mae’r Wolfe yn gallu troi’r dryloyw. Be’ ddiawl??
Yr enw Joshua Wolfe. Blydi Hel, mae’n amlwg mae rhyw arwr i fois llawn testosterone yn eu harddegau yw e’, gyda enw fel ‘na. Mae hyn yn egluro’r shelffo felly.
O ran y llyfrau eu hun, mae rhain yn tueddu i ddilyn rhai o’r ffilmiau Bond gwaethaf, yn symud o un set-piece i un arall, heb rhyw lawer o blot yn esgus amdanynt. Bach yn drwsgl yw’r holl beth, gyda Wolfe yn llwyddo i guro yn erbyn bois mawr pwerus a threfnys yn hawdd, ond wedyn yn cael problemau yn erbyn rhyw fath o derfysgwyr comedi gwael.
Fy marn cyffredinol fydde peidiwch a ffwdanu oni bai bod gyda chi ddigon o amser i wastraffu yn darllen dros 700 o dudalennau.
Marc: 3/10. Siomedig, rhaid gwneud yn well.
February 17, 2006 am 12:46
Dych chi wedi gweld darn Larry Niven am wneud geiriau alien? Diddorol iawn.
February 21, 2006 am 14:06
Ma’r collnodau wastad wedi pisio fi off. Blydi “P’tchau Cath’haaar”. Ydi gormod o gytseiniad olynol yn drosedd yn erbyn ffug-wydd hefyd?
Debyg bod y defnydd o “P’t” yn enwau o’r fath wedi dod gan enwau yr Eifftiaid fel Ptah