Oes Aur yr awduron gwyddonias

Pan ddechreuais i ddarllen llyfrau gwyddonias gyntaf, awduron megis Isaac Asimov, Robert A. Heinlein, Arthur C. Clark, ymysg eraill, byddai’n denu fy sylw. Roedd y llyfrau hyn yn rhai byddai’n trafod syniad yn bennaf, gyda’r plot a’r cymeriadu yn helpu i ddatblygu’r syniad yma ymhellach. Yn aml iawn byddai’r cymeriadau yn rhai eithaf dau-dimensiwn, hynny yw heb eu datblygu’n gynhwysfawr. Ar y pryd doedd hyn ddim yn achosi problem enbyd, gan fod y dychymyg tu ol i’r syniad yn ddigonol i gynnal y wefr wrth ddarllen.

Yn y blynyddoedd dilynnodd y camau cyntaf hynny i fyd y gwyddonias, rwyf wedi dod ar draws nifer i awdur newydd a chyffrous, sydd yn llawn syniadau fel y cewri a fu, ond hefyd yn datblygu’r cymeriadau a’r plot i raddau helaeth hefyd. Rhai o’m hoff awduron bellach yw Christopher Priest, John Meaney ac Ian M Banks. Mae’r awduron yma yn llwyddo i ddatblygu syniad cymleth a’i chynnal drwy plot a chymeriadu o safon.
Serch hynny ar adegau mae angen darllen llyfr sydd a neges neu syniad ynddo, heb feddwl yn ormodol am y plot a’r cymeriadu, ac i wneud hynny rhai dychwelyd i awduron yr Oes Aur.

2 Sylw i'r cofnod “Oes Aur yr awduron gwyddonias”

  1. Meddai Nic Dafis:

    Dechreuais i yn yr un llefydd รข ti, ond dw i ddim wedi darllen lot o wyddonias ers i mi adael yr ysgol. Yr unig rhai o’r “to newydd” dw i’n eu nabod yw Banks ac Alastair Reynolds (Cymro yw hwnna, do’n i ddim yn gwybod hynny).

    Priest a Meaney ill dau yn edrych yn ddiddorol – oes awgrymiadau o le i ddechrau?

  2. Meddai ceribethlem:

    Llyfr cyntaf John Meaney, “To hold Infinity”, yw’r un hawsaf i’w ddarllen gan fod y tri arall yn rhan o drioleg.

    Mae Christopher Priest yn awdur diddorol, “A Dream of Wessex” oedd y cyntaf i fi ei ddarllen, ac yn fy marn i mae hwn yn le da i ddechrau.