Dr Who

Mae tipyn wedi cael ei ysgrifennu am Dr Who ers i Bodio’r Bydysawd gychwyn. Ond, rhaid yw son am (o bosib) y geek-fest mwyaf yn hanes teledu:

Dr Who v Daleks v Cybermen

Jiawcs! Syniad sydd lan yna gyda Aliens v Predators, dim ond gobeithio bydd Dr Who yn gwneud llwyddiant gwell o’r holl beth nac y gwnaethpwyd o’r ffilm ‘Alien v Predator’.

Neis gweld Torchwood yn cael ei gyflwyno’n araf bach hefyd, gyda Cwin Vicky yn dechrau’r holl beth yn dilyn y werewolf yn yr Alban, wedyn symud i Canary Wharf yn Llundain. Ymddengys y bydd y gyfres newydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, ar ben y rifft ‘na soniwyd am yn y gyfres gyda Eccleston. A bydd Capten Jac yn ddi ‘fyd.

Un sylw i'r cofnod “Dr Who”

  1. Meddai Wierdo:

    Mae’r “daily teasers” ar y wefan bbc yn wych.

    Oes rwyn wedi darganfod y blog “obscure” sonwyd amdano yn Love and monsters?

    Ydi Rose yn marw go iawn ta jesd yn marw chydig tu mewn (bleuch)?

    Dwin meddwl mod i dio cal fy ffics o Dr who am rwan.

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.