The Snow – Adam Roberts

Rwyf wedi son ar Bodio’r Bydysawd am y ffordd yr wyf yn hoff o ddarllen. Rwy’n hoff iawn o ddarganfod awdur newydd mewn llyfrgell, am un peth mae’n meddwl does dim risg, yn aml pan fyddaf yn edrych ar lyfrau mewn siop byddaf yn tueddu i brynu awdur yr wyf yn ei adnabod.
Dros yr haf ges i The Snow gan Adam Roberts mas o lyfrgell Clydach. Fe ddechreuodd mas fel rhwy fath o lyfr post-apocalyptic. Ac un arbennig o dda meddyliais wrth i mi ei ddarllen.
Dechreuodd y llyfr wrth i fenyw yn Llundain son am yr eira mawr yn parhau a pharhau. A’r steil yma yn parhau am cryn dipyn, heb unrhyw eglurhad o pham na sut y daeth yr eira mawr. Newidiodd steil y llyfr am ychydig wedyn, ac roedd y stori yn rhoi cefndir gwyddonol i’r eira mawr yma, fel pe bai’r darllenwr yn darllen dogfen gan wyddonydd neu lywodraeth. Nol a ni wedyn i’r dull gwreiddiol, a’r fenyw o Lundain bellach yn byw mewn dinas ar wyneb yr eira.
Am dros dri chwarter o’r nofel roeddwn yn meddwl ei fod yn lyfr gwych. Llyfr o wyddonias caled, meddylgar.
Yna siom mawr, gorffennodd y llyfr gyda eglurhad mae aliens oedd yn gyfrifol!

Fi’n hoff o lyfrau gyda aliens ynddyn nhw. Gellir cael social commentary dilys megis War of the Worlds gan y meistr Herbert George Wells; neu fe ellir cael stori antur cyflym llawn cyffro, megis storiau Iain M. Banks. Mae eraill wedyn, Arthur C. Clark a Stephen Baxter er enghraifft yn tueddu i ysgrifennu gwyddonias caled, wedi selio ar bosibiliadau gwyddonol. Yn fy marn i mae lle i’r ddau math o lyfr, ond nid rhyw gymysgedd rhyfedd fel y cafwyd yn The Snow gan Adam Roberts. Trueni mawr, achos pan ddechreuais ei ddarllen tybiais fy mod wedi darganfod awdur newydd o safon.

Comments are closed.