28 weeks later

Es i weld hwn wthnos dwetha, a joies i mas draw. Mae’n ffilm hyd yn oed mwy gruesome na 28 days later. Sdim o’r cymeriadau o’r un cyntaf yn dychwelyd, felly parhau a’r thema yn hytrach na’r stori gwreiddiol oedd y ffilm yma. Ffilm da, gydag effeithiau ac actio da. Odd rhywbeth bach ar goll yn rhywle. Odd rhyw deimlad gyda fi fod hon yn rhyw rip-off braidd o Aliens. Ond fel wedes i odd e’n ffilm nes i fwynhau’n arw.

Un peth nath mynd ar nerfe fi oedd y continuity. Fi’n rhywfaint o continuity freak, a mae’n gas gyda fi rhywbeth sy’n torri ar draws continuity ffilm neu stori o unrhyw fath. Peidiwch a darllen y gweddill os nad ydych wedi gweld y ffilm hyd yma.

Yn y ffilm gwreiddiol fe ddatblygodd pobl yr “afiechyd” rage am fod tsimpansi wedi cnoi’r ferch ar ddechrau’r rhaglen. Yn yr ail ffilm fe ddywedodd un o’r cymeriadau fod yr afiechyd wedi ei glirio am fod pawb odd yn dioddef o’r afiechyd wedi marw, ac ei fod yn methu pasio mewn i anifeiliaid.

Yr ail twll oedd, yn y ffilm gwreiddiol dywedwyd mai Prydain oedd yr unig le oedd yn dioddef o’r afiechyd, a’i fod mewn cwarantin. Dywedwyd (neu awgrymwyd ddim yn cofio’n gywir) fod Efrog Newydd a Pharis yn glir o’r afiechyd. Yn y ffilm gwreiddiol nodwyd yn hollol glir fod outbreaks o’r afiechyd wedi bod yn y ddau le.

¬†Ar y cyfan pethau bach i freak fel fi oedd rhain. Os chi’n hoffi ffilmie arswyd, mae’n werth ei weld.

2 Sylw i'r cofnod “28 weeks later”

  1. Meddai Blewyn:

    Ydy o wedi ei ffilimio ar fideo grawnllyd fel y cynta ta di nhw wedi gwario ar ffilm tro’ma ? Wrth fy modd efo’r cyntaf ag yn edrych ymlaen i hwn yn arw, on un cwestiwn bach : pam nad ydy’r dioddefwyr ‘rage’ yn ymosod ar eu gilydd ?

  2. Meddai sanddef:

    Oes gen ti syniadau ar gyfer y Welsh Blog Awards 2007?