Archif ar gyfer Categori 'Cyffredinol'

28 weeks later

Wednesday, May 23, 2007 16:20

Es i weld hwn wthnos dwetha, a joies i mas draw. Mae’n ffilm hyd yn oed mwy gruesome na 28 days later. Sdim o’r cymeriadau o’r un cyntaf yn dychwelyd, felly parhau a’r thema yn hytrach na’r stori gwreiddiol oedd y ffilm yma. Ffilm da, gydag effeithiau ac actio da. Odd rhywbeth bach ar goll [...]

Dune: y gyfres teledu v Ffilm David Lynch

Tuesday, February 13, 2007 16:41

Ymddiheuriadau am beidio ag ysgrifennu dim ar y wefan yma ers dipyn. Gwaith wedi bod yn wyllt braidd, ac fi wedi cael adeiladwyr a phlymwyr mewn yn Bethlem Bach. Ta beth, yn ddiweddar ‘wy wedi bod yn hurio’r gyfres deledu Dune o Amazon. Sbel fach yn ol fe wedes i mai Dune oedd (yn fy marn [...]

rant

Saturday, June 24, 2006 21:11

Rant bach yw hwn yn mynd i fod fan hyn.
Fi bach yn grac i ffindo mas fod cwmniau teledu yr UDA wedi penderfynnu rhoi terfyn ar Invasion. O’n i’n mwynhau Invasion, rhaglen anarferol, un meddylgar gyda’r cymeriadau’n datblygu’n araf, ac arch y stori yn datblygu dros y gyfres gyfan, gorffen gyda hymdingar o cliffhanger, jyst [...]

Oes Aur yr awduron gwyddonias

Tuesday, February 21, 2006 18:47

Pan ddechreuais i ddarllen llyfrau gwyddonias gyntaf, awduron megis Isaac Asimov, Robert A. Heinlein, Arthur C. Clark, ymysg eraill, byddai’n denu fy sylw. Roedd y llyfrau hyn yn rhai byddai’n trafod syniad yn bennaf, gyda’r plot a’r cymeriadu yn helpu i ddatblygu’r syniad yma ymhellach. Yn aml iawn byddai’r cymeriadau yn rhai eithaf dau-dimensiwn, hynny [...]

Dechrau

Monday, December 12, 2005 12:26

Helo a chroeso i Bodio’r Bydysawd, gwefan i ddathlu Gwyddonias/ Ffuglen gwyddonol trwy gyfrwng y gymraeg. Y mae’r seiat yn newydd sbon ac felly nid oes llawer arni ar hyn o bryd ond gobeithiwn, hefo eich cefnogaeth chi, y bydd hi fel mos eisley yma erbyn y flwyddyn newydd!
Danfonwch storiau fer gwyddonias, sylwadau ac erthyglau [...]