Bodio'r Bydysawd » Ffilm

A Sound of Thunder
Stori fer gan Ray Bradbury yw A Sound of Thunder. Stori am ddyn yn mynd nol i’r gorffennol i hela Dinosor. Yn y gorffennol mae rhywbeth yn mynd o’i le sy’n effeithio ar y presennol. Syniad digon cyffredin bellach. Ysgrifennwyd hi gan Ray Bradbury yn y 50au, ac mae dull ysgrifennu Ray Bradbury yn llwyddo i sicrhau fod y stori fer yma yn sicrhau lond cystal effaith hanner canrif ar ol ei hysgrifennu.

Y peth amlwg i’w wneud yw rhyddhau’r stori yma ar ffurf ffilm, yn arbennig yn dilyn llwyddiant yr effeithiau arbennig ar y deinosors yn nhrioleg Jurassic Park. Sylwais fod y ffilm i’w rhentu yn y siop rhentu DVD’s cyfagos, felly dyma fi’n talu fy nhair punt amdani a mynd adre yn barod i’w gweld. Un gair o gyngor sydd gen i ynglyn a gwylio’r ffilm yma.

Peidiwch

Roedd yr effeithiau arbennig yn rhwybeth, ond nid arbennig o dda mohonynt. Ar ol gweld yr effeithiau gwych a gafwyd yn Jurassic Park rhyw ddeng mlynedd yn ol, roedd rhain yn warthus. Roedd yr effeithiau yn y gyfres Walking with Dinosaurs yn well! Roedd y plot yn un gwarthus, yn llawn tyllau anferth, amlwg. Pan gwnaed y camgymeriad yn y gorffennol (sef sefyll ar iar fach yr haf – fel yn y stori gwreiddiol), ni newidwyd y presennol yn syth, ond yn hytrach roedd y newidiadau’n dod mewn tonnau. Yn ol y ddamcaniaeth yma, y rhywogaeth ola i gael eu newid bydda’i rhai olaf i esblygu (duw a wyr pam??) felly dynoliaeth yw’r olaf i newid (handi!). Pan mae’r fenyw yn newid i rhyw feth o squid dynol, mae hi dal i sefyll mewn adeilad mawr wedi ei hadeiladu gan ddynoliaeth. O ble ddaeth yr adeilad felly?

Ffilm gachu, gyda phlot gachu, actio cachu ac effeithiau gachu. Peidiwch a gwastraffu’ch amser ar y fath dwlu!

Ffilmiau Arswyd rhad
Rwyf fi yn ffan mawr o ffilmiau arswyd sydd a cylli isel, ac wedi bod ers i mi weld yr anfarwol Evil Dead a Bad Taste pan yn fyfyriwr.

Yn ddiweddar fe ges i deledu lloeren wedi osod yn y ty, ac yn edrych mlaen yn fawr i weld rhai o’r ffilmiau yma ar y sianel Zone Horror. Dyma’r ffilm bues i’n aros am cyhyd yn dod mlaen wythnos neu ddau nol. Vampires vs Zombies. Gwych meddyliais i’m hun, a dyma fi’n ymgartrefi ar y soffa. Am sioc! Nid ffilm o safon Evil Dead, nac ychwaith Bad Taste oedd hi, ond hytrach rhywbeth rhyfedd iawn, ffilm amlwg yn rhad tu hwnt, ond dim llawer o blot iddi chwaith, lot o yrru o gwmpas a lladd ar hap. Falle ddylen i gael pip arall arni cyn penderfynnu os oedd hi’n dda neu beidio.

Ffilm arall oedd ar y sianel Zone Horror yn ddiweddar oedd Nude for Satan. Wrth weld yr enw roeddwn yn benderfynnol fy mod am ei hoffi. Yn anffodus bu rhaid i mi newid fy meddwl ar ol ei gwylio, cachu di-sens oedd hi. Fe’m siomwyd.

Dihirod Arswyd Clasurol
Pethau od yw ffilmiau Werewolf.

Mae Dracula  wedi bod yn un o’r dihirod mwyaf dylanwadol mewn ffilmiau ers 1922, a’r ffilm seminal hwnnw, Nosferatu. Buodd Dracula yn gymeriad mor fawr (yn arbennig gyda Bela Lugosi a Christopher Lee), ei fod wedi llwyddo i gynnal cwmni ffilmiau Hammer yn Lloegr am dros ddegawd. Bach yn shit aeth pethau yn y diwedd, a troi’n soft-porn-aidd braidd, gyda ffilmiau megis Vampire Lovers, Countess Dracula, Twins of Evil ac eraill yn canolbwyntio mwy ar merched pert hanner noeth nac ar plot safonol. Serch hynny maent yn ffilmiau da, ar ol noson o tanco lawr y dafarn. Dim plot, bronnau – ffilm gwych i feddwyn!

Ymlaen wedyn i’r ffilmiau mwyd diweddar, y fersiwn o Dracula gyda Gary Oldman, wedyn ffilmiau mwy modern megis Blade yn llwyddo i symud y genre ymlaen.

Frankenstein yn gymeriad diddorol arall (neu i fod yn fwy cywir y monster, gan mai’r Doctor oded Frankenstein). Eto Hammer wedi gwneud lot o ffilmiau am y dihiryn yma, gyda Bela Lugosi eto yn chwarae rhan, ac yna’r enwog Boris Karloff. Roedd Karloff wedi cael y fath effaith nes fod bron pawb yn meddwl am y dihiryn gyda bolltau mawr yn dod mas o’i wddwg.

Mae llai o sgop i chwarae gyda’r cymeriad yma i’w gymharu a’r vampire, serch hynny gellir dadlau fod nifer o ffilmiau megis Universal Soldier a’r holl storiau genetic engineering yn riff  ar thema Frankenstein (neu Island of Dr Moreau gan H G Wells o bosib).

Dyma ni felly yn cyrraedd y Werewolf, ac yn dychwelyd i’r frawddeg agoriadol.

American Werewolf in London. 4 gair, i lawer dyma’r ffilm arswyd gorau erioed (ac ar y rhestr o ffilmiau rhaid eu gwylio – hmmm falle bydd rhaid gwneud un o rhain), yn sicr hwn yw’r ffilm werewolf gorau erioed. Wedi dweud hynny, rhaid edrych ar gymhariaeth. Dyw’r werewolf byth wedi cael yr un chwarae teg a’r ddau ddihiryn arall, a neb yn taflu arian mawr i wneud ffilm o’r pwnc yma. Ffilmiau Indie yw’r mwyafrif, gyda rhai megis Ginger Snaps a Dog Soldiers yn cyfrif (yn fy marn i) fel ffimiau Indie.

Heno wylies i Cursed, gyda Christina Richi. Bachgen a’i brawd yn cael eu cnoi gan werewolf, yna yn goroesi trwy ladd y dihiryn. Stoc horyr a gweud y gwir. Mae rhywbeth am Christina Richi fi’n lico, felly ar y sail ‘na o’dd hi’n werth gweld. O ran plot, cachu braidd. Ar wahan i Christina Richi, rhan gorau’r ffilm oedd pan oedd y ci hoffus, addfwyn, neis wedi troi mewn i were-gi. Gwych.

Ginger Snaps yn ffilm diddorol, ond methedig. Yn ol y son mae Ginger Snaps Back yn warthus, sai wedi gweld e’, felly allai ddim gweud. Mae Ginger Snaps yn alegori llawer rhy amlwg o’r glasoed, mae’r merched yn dechrau eu mislif ar ol cael eu cnoi hefyd, rhag ofn ein bod ni wedi colli’r pwynt yna! Ar y cyfan mae’n romp bach digon diddorol, ond ddim yn werth gwneud pwynt o’i weld.

Dog Soldiers wedyn, eto ffilm digon diddorol, ond eto yn fethedig ar lawer o lefelau. Yr FX yn warthus am un peth, mae gweld anghenfil sydd yn amlwg yn latex ddim yn ddigon i roi ofn i rhywun dyddiau hyn. O ran y plot, mae e’ ychydig fel fersiwn cachu o Assault on Precinct 13 gyda pobl yn gwisgo pen ci, ac wedi lleoli mewn fforest yn yr Alban.

Mae angen ffilm Werewolf da i gystadlu gyda American Werewolf in London. Nid American Werewolf in Paris yw hi, er fod yr hyfryd Julie Delpy yn hwnnw. Efallai fod angen lleoli Werewolf Americanaidd yng Nghymru rhywle?

Beth am American Werewolf in Rhyl?