Bodio'r Bydysawd » Dr Who

Dr Who
Mae tipyn wedi cael ei ysgrifennu am Dr Who ers i Bodio’r Bydysawd gychwyn. Ond, rhaid yw son am (o bosib) y geek-fest mwyaf yn hanes teledu:

Dr Who v Daleks v Cybermen

Jiawcs! Syniad sydd lan yna gyda Aliens v Predators, dim ond gobeithio bydd Dr Who yn gwneud llwyddiant gwell o’r holl beth nac y gwnaethpwyd o’r ffilm ‘Alien v Predator’.

Neis gweld Torchwood yn cael ei gyflwyno’n araf bach hefyd, gyda Cwin Vicky yn dechrau’r holl beth yn dilyn y werewolf yn yr Alban, wedyn symud i Canary Wharf yn Llundain. Ymddengys y bydd y gyfres newydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, ar ben y rifft ‘na soniwyd am yn y gyfres gyda Eccleston. A bydd Capten Jac yn ddi ‘fyd.

Y Doctor a’r Cynrhon Cymreig
Yr wythnos nesaf, mi fydd BBC FOUR yn darlledu stori 6-pennod o Doctor Who, fel rhan o’i wythnos arbennig yn edrych nôl ar y flwyddyn 1973. Jon Pertwee oedd yn chwarae rôl y Doctor yn y flwyddyn yma.

Mae’r stori The Green Death yn cymeryd lle ym mhentre Llanfairfach lle mae’r gwastraff o gwmni cemegion lleol, Global Chemicals, wedi llygru y tir a chreu cynrhon anferth gwenwynig. Yn y cyfamser, mae cyfrifiadur o’r enw BOSS sy’n berchen i gwmni Global wedi mynd yn wallgo ac am orchfygu’r byd (wrth gwrs).

A fydd y Doctor yn gallu achub y dydd unwaith eto? Gwyliwch y pennodau ar BBC FOUR dros dri diwrnod – Ebrill 3ydd i’r 5ed am 19.10 bob nos.

Dr.Who ‘dolig a’r gwrogi i Star Wars
Darllenais a diddordeb sylwadau Ceribethlem ynglŷn a’r episode gwych o Dr.Who ar diwrnod ‘dolig cŵ. (Rhagfyr 26, 2005 12:02)

Fel unrhyw nyrd werth ei halen, wnes i hefyd pigo fynnu ar y gwrogiad (ai dyma’r air cywir?) i Star Wars pan dorwyd llaw y doctor ffwrdd a la Luke vs Vader, ac hefyd y modd iwniqe na’ o cau drws trwy taflu rhywbeth tuag at y bwtwm…ac, wrth gwrs, yn taro’y targed tro cynta’!! Ond o ni ddim cweit mor craf a ceri nath sylwi ar y gwn laser mawr – Da iawn ti hogyn!

Oedd yna ‘tip o’r cap’ i Indiana Jones hefyd, neu ydw i yn cymysgu a rhywbeth arall? Hefyd, a oedd y gwrogiad i Star Wars yn bwrpasol fellu? Neu jest byr o amser oedd y cynhyrchwyr ac fellu wnaethant dygyd steil a scenarios o Star Wars?

Roeddwn i wrth fy modd a David Tennant, llawer iawn gwell na Eccleston o ni yn meddwl. Edrych ymlaen i weld be’ mae nhw’n gwneud a’r rhaglen Torchwood!

Dr Who Nadolig
Dydd Nadolig wedi dod a mynd. Anrhegion wedi eu hagor, beth arall oedd i’w wneud? Edrych ar Dr Who wrth gwrs. Oedd y mrawd nol am y ‘dolig, ac oedd e ddim yn rhy siwr o’r syniad o wylio Dr Who. Dyw e heb gweld dim o’r gyfres newydd ac felly oedd e’n cofio Dr Who fel plentyn. Cysgu nath e’ drwy’r holl beth.

Weles i fe ta beth. Gwd thing o’n i’n meddwl, David Tennant yn neud jobyn reit dda o fod yn Ddoctor, ddim yn rhy debyg i Ecclestone, ac felly yn dod ac agweddau newydd i’r cymeriad. Ambell beth gwleidyddol ynddo fe hefyd (tic mawr i Russel T felly) megis y rhan lle roedd Harriett Jones yn gwrthod gadael i’r Unol Daleithiau gymryd drosodd ac arwain y byd i ryfel yn erbyn y bois drwg.

Ar y diwedd wedyn roedd y rhan am Torchwood (sydd o bosib yn mynd i fod yn spin-off yn cynnwys Captain Jack glywes i) yn ddiddorol, am un peth mae hi wedi dangos y ffordd mae Harriett Jones wedi newid ers iddi fod mewn pwer, a’r bwlch sy’n tyfu rhyngddi hi a’r doctor. Y rhan mwyaf diddorol i fi oedd y gwn laser mawr nath saethu’r bois drwg. Ble gwelwyd hwn o’r blaen? I ffanatig Star Wars megis myfi, nid cwestiwn caled mohono, dyma’r gwn laser mawr oedd yn ganolog i’r ddau Death Star, yn A New Hope a Return of the Jedi! Ac wrth gwrs fe dorrwyd llaw y doctor bant mewn brwydr cleddyf lan yn y cymylau, Cloud City, Bespin yn Empire Strikes Back. Y trydydd cysylltiad amlwg gyda Star Wars oedd pan daflodd y doctor yr oren at y botwm i ladd y bachan drwg, roedd hwn yn atgoffa dyn o’r brwydr rhwng Luke Skywalker a’r Rancor yn Return of the Jedi lle mae Luke yn taflu penglog at fotwm ar y wal i ollwng y drws ar wddf y Rancor.

Fi’n siwr bydd mwy am y doctor newydd wrth i’r gyfres newydd agosau yn y gwanwyn. Un peth bach, cofiwch, bydd y Cybermen nol. Gwd nawr.

Pennod Nadolig
Wrth i’r bennod Nadoligaidd o Dr Who agosau, mae’r BBC yn parhau i roi fwy o gliwiau i ni drwy roi dolen i wefan Guinevere – cynllun gan dîm o Brydain  i ddanfon chwiledydd gofod i’r blaned Mawrth.

Mae’n edrych fel fod y stori wedi’i seilio ar prosiect y Beagle2 ond yn lle Prof. Colin Pillinger gyda’i sideburns mawr mae’r wefan yn rhoi hanes Professor Daniel Llewellyn a’i farf – rhan sy’n cael ein chwarae gan ‘ein Daniel Evans ni’.

Mi fydd y bennod yn cael ei ddarlledu ar nos Sadwrn (dydd Nadolig) am 19:00 ar BBC ONE, ac ar BBC THREE ar Ionawr 1af.

Arddangosfa Dr Who
Ar ddydd Iau, Rhagfyr 22ain fe fydd arddangosfa am y Doctor yn agor yng Nghaerdydd – mae’r mynediad am ddim a fe fydd yn para am ddwy fis.

Cynhelir yr arddangosfa yng Nghanolfan Red Dragon ym Mae Caerdydd. Fe fydd cyfle i weld hanes y gyfres a’r cymeriadau dros 40 mlynedd ynghyd a gelynion pennaf y Doctor – y Daleks. Ar ôl i’r bennod arbennig gael ei ddarlledu ar ddiwrnod Nadolig fe fydd rhai o wisgoedd a phrops y bennod hynny i’w gweld hefyd.