David Gemmell – Heddwch i’w lwch

Awst 30, 2006 20:08 gan ceribethlem

Bues i byth yn ffan mawr o lyfrau ffantasi yn ystod fy arddegau a’m hugeiniau, dries i ddarllen Lord of the Rings, ond heb ei fwynhau rhyw lawer (bellach rwyf wedi ei gwblhau, ac a bod yn onest ddim yn credu ei fod yn haeddu’r holl heip – ond ‘na fe, barn personol yw hynny).
Tra’n crwydro o gwmpas llyfrgell Llandeilo, mi welais lyfr gan y diweddar David Gemmell sef The Swords of Night and Day. Mi wnes i fwynhau’r llyfr yn arw, a dyma fi’n dechrau darllen cymaint o’i lyfrau ac y medrwn.
Mae David Gemmell wedi ysgrifennu nifer o lyfrau o safon uchel iawn, ond ei gyfres Drenai yw’r rhai mwyaf poblogaidd. Un o’r pethau rwy’n hoffi am arddull David Gemmell fel awdur yw’r ffordd cymhleth o gymeriadu sydd ganddo. Nid pobl da iawn yw’r arwyr, mae ‘na ochr dywyll iddyn nhw, yn aml ochr cas iawn. Ar y llaw arall yn aml dyw’r gelynion ddim yn ystyried eu gweithredoedd yn rhai evil, ond yn hytrach yn tybio mai dyma’r ffordd orau i weithredu dan yr amgylchiadau.
Cyfres arall diddorol ag ysgrifenwyd gan Gemmell oedd cyfres y Rigante. Cyfres diddorol yn olrian clan o dras y Keltoi. Fel gellir dychmygu mae chwedlau celtaidd yn chwarae rhan amlwg yn y nofelau yma.
Tuag at diwedd ei yrfa, a Gemmell druan yn dioddef o gancr, penderfynodd ymgipris a’r sialens o ysgrifennu stori Troi mewn un trioleg swmpus. Mae’r cyntaf o’r rhain Lord of the Silver Bow mas eisoes, a’r ail Shield of Thunder fod mas ym mis Medi. Darllenias y cyntaf o’r rhain ar ddechrau’r Haf, a gwledd o lyfr oedd hi, yn bleser i’w ddarllen. Byddaf yn sicr yn darllen yr ail pan ddaw mas. Y trueni mawr yw fod David Gemmell wedi trigo bellach, heb i neb fod yn siwr a wnaeth gwblhau’r drydedd o lyfrau Troi. Mi glywais mae ond rhyw 70 tudalen a gwblhawyd. Mae hyn yn drueni mawr ar nifer o lefelau; ar lefel personol, hunanol ni fydd yn bosib i mi orffen darllen y drioleg; ar lefel mwy, breuddwyd Gemmell oedd i gwblhau’r drioleg, ac mae’n bechod ni fydd person roddodd cymaint i fyd lenyddol ffantasi yn cael gwireddu ei freuddwyd.

David Gemmell 1948 – 2006 Heddwch i’w lwch. Mae’r byd ffantasi llenyddol yn le tlotach hebddo.

Resurrection gan Arwen Elys Dayton

Awst 22, 2006 21:00 gan ceribethlem

Awdures Americanaidd ysgrifennodd y llyfr yma, dalodd yr enw fy llygaid am ei fod yn ymddangos yn enw o dras Cymraeg. Fodd bynnag, doedd dim son am unrhyw hanes Cymraeg amdani, mae’n debyg fod ei mam yn hippy ( geiriau hi nid fi) ac wedi ei henwi ar ol y cymeriad o Lord of the Rings.
Ta beth, mlaen a’r adolygiad o’r llyfr.
Llyfr a syniad diddorol, er ddim yn un newydd o bell ffordd (gweler y ffilm Stargate fel esiampl), yn y stori mae planed arall (Herrod – ha ha doniol iawn) gyda pobl humanoid yn byw arni, er bod lliw eu croen yn fwy llwyd na ni. Tua pum mil o flynyddoedd yn ol fe ddatblygwyd dukk o deithio’n gyflymach na golau gan y bobl yma, ac fe ddanfonwyd llong ofod i’r ddaear. Glaniodd y llong yma yn yr Aifft. Tua’r un adeg fe fu rhyfel a chollwyd y dechnoleg yma.
Mae’r stori yn symud yn ol a mlaen rhwng y gorffenol pell a’r presennol er mwyn trial cynnal y diddordeb, ac fe lwyddodd yn hynny o beth.
Prif arf y llyfr yma i’r awdures wedi ymchwilio’n fanwl i grefydd, gwleidyddiaeth, pensaerniaeth ac ati’r cyfnod (Aifft hynny yw, nid y blaned Herrod!). Y syniad tu ol y llyfr yw fod y bobl yma o Herrod wedi cyrraedd y ddaear ac wedi adeiladu’r Great Pyramid, a taw dyna pam mai hwn yw’r unig esiampl o’i fath.
Fel soniais uchod dyw’r llyfr ddim mor unigryw ac y hoffai fod, er yr oedd yn un ddigon hawdd i’w ddarllen. Gwendid mwya’r llyfr oedd y ffordd oedd pobl yn gallu newid eu teimladau mor gyflym e.e. y brif arwres yn rhannu’r daith gyda’i chariad, pymtheg mlynedd mewn i’r siwrne mae yntau’n marw. Wedi cyrraedd y Ddaear mae hi’n cwympo mewn cariad a rhywun arall!

Rwy’n falch nes i ddarllen y llyfr, achos mae hi tro’n werth rhoi cyfle i dalent newydd. Rwy’n falch hefyd fod y llyfr ar gael yn y llyfrgell, achos dwi ddim yn siwr os oedd hi’n werth talu amdani!

Dr Who

Gorffennaf 3, 2006 20:30 gan ceribethlem

Mae tipyn wedi cael ei ysgrifennu am Dr Who ers i Bodio’r Bydysawd gychwyn. Ond, rhaid yw son am (o bosib) y geek-fest mwyaf yn hanes teledu:

Dr Who v Daleks v Cybermen

Jiawcs! Syniad sydd lan yna gyda Aliens v Predators, dim ond gobeithio bydd Dr Who yn gwneud llwyddiant gwell o’r holl beth nac y gwnaethpwyd o’r ffilm ‘Alien v Predator’.

Neis gweld Torchwood yn cael ei gyflwyno’n araf bach hefyd, gyda Cwin Vicky yn dechrau’r holl beth yn dilyn y werewolf yn yr Alban, wedyn symud i Canary Wharf yn Llundain. Ymddengys y bydd y gyfres newydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, ar ben y rifft ‘na soniwyd am yn y gyfres gyda Eccleston. A bydd Capten Jac yn ddi ‘fyd.

Dihirod Arswyd Clasurol

Mehefin 24, 2006 21:41 gan ceribethlem

Pethau od yw ffilmiau Werewolf.
Mae Dracula wedi bod yn un o’r dihirod mwyaf dylanwadol mewn ffilmiau ers 1922, a’r ffilm seminal hwnnw, Nosferatu. Buodd Dracula yn gymeriad mor fawr (yn arbennig gyda Bela Lugosi a Christopher Lee), ei fod wedi llwyddo i gynnal cwmni ffilmiau Hammer yn Lloegr am dros ddegawd. Bach yn shit aeth pethau yn y diwedd, a troi’n soft-porn-aidd braidd, gyda ffilmiau megis Vampire Lovers, Countess Dracula, Twins of Evil ac eraill yn canolbwyntio mwy ar merched pert hanner noeth nac ar plot safonol. Serch hynny maent yn ffilmiau da, ar ol noson o tanco lawr y dafarn. Dim plot, bronnau – ffilm gwych i feddwyn!

Ymlaen wedyn i’r ffilmiau mwyd diweddar, y fersiwn o Dracula gyda Gary Oldman, wedyn ffilmiau mwy modern megis Blade yn llwyddo i symud y genre ymlaen.

Frankenstein yn gymeriad diddorol arall (neu i fod yn fwy cywir y monster, gan mai’r Doctor oded Frankenstein). Eto Hammer wedi gwneud lot o ffilmiau am y dihiryn yma, gyda Bela Lugosi eto yn chwarae rhan, ac yna’r enwog Boris Karloff. Roedd Karloff wedi cael y fath effaith nes fod bron pawb yn meddwl am y dihiryn gyda bolltau mawr yn dod mas o’i wddwg.
Mae llai o sgop i chwarae gyda’r cymeriad yma i’w gymharu a’r vampire, serch hynny gellir dadlau fod nifer o ffilmiau megis Universal Soldier a’r holl storiau genetic engineering yn riff ar thema Frankenstein (neu Island of Dr Moreau gan H G Wells o bosib).

Dyma ni felly yn cyrraedd y Werewolf, ac yn dychwelyd i’r frawddeg agoriadol.
American Werewolf in London. 4 gair, i lawer dyma’r ffilm arswyd gorau erioed (ac ar y rhestr o ffilmiau rhaid eu gwylio – hmmm falle bydd rhaid gwneud un o rhain), yn sicr hwn yw’r ffilm werewolf gorau erioed. Wedi dweud hynny, rhaid edrych ar gymhariaeth. Dyw’r werewolf byth wedi cael yr un chwarae teg a’r ddau ddihiryn arall, a neb yn taflu arian mawr i wneud ffilm o’r pwnc yma. Ffilmiau Indie yw’r mwyafrif, gyda rhai megis Ginger Snaps a Dog Soldiers yn cyfrif (yn fy marn i) fel ffimiau Indie.

Heno wylies i Cursed, gyda Christina Richi. Bachgen a’i brawd yn cael eu cnoi gan werewolf, yna yn goroesi trwy ladd y dihiryn. Stoc horyr a gweud y gwir. Mae rhywbeth am Christina Richi fi’n lico, felly ar y sail ‘na o’dd hi’n werth gweld. O ran plot, cachu braidd. Ar wahan i Christina Richi, rhan gorau’r ffilm oedd pan oedd y ci hoffus, addfwyn, neis wedi troi mewn i were-gi. Gwych.

Ginger Snaps yn ffilm diddorol, ond methedig. Yn ol y son mae Ginger Snaps Back yn warthus, sai wedi gweld e’, felly allai ddim gweud. Mae Ginger Snaps yn alegori llawer rhy amlwg o’r glasoed, mae’r merched yn dechrau eu mislif ar ol cael eu cnoi hefyd, rhag ofn ein bod ni wedi colli’r pwynt yna! Ar y cyfan mae’n romp bach digon diddorol, ond ddim yn werth gwneud pwynt o’i weld.

Dog Soldiers wedyn, eto ffilm digon diddorol, ond eto yn fethedig ar lawer o lefelau. Yr FX yn warthus am un peth, mae gweld anghenfil sydd yn amlwg yn latex ddim yn ddigon i roi ofn i rhywun dyddiau hyn. O ran y plot, mae e’ ychydig fel fersiwn cachu o Assault on Precinct 13 gyda pobl yn gwisgo pen ci, ac wedi lleoli mewn fforest yn yr Alban.

Mae angen ffilm Werewolf da i gystadlu gyda American Werewolf in London. Nid American Werewolf in Paris yw hi, er fod yr hyfryd Julie Delpy yn hwnnw. Efallai fod angen lleoli Werewolf Americanaidd yng Nghymru rhywle?

Beth am American Werewolf in Rhyl?

rant

Mehefin 24, 2006 21:11 gan ceribethlem

Rant bach yw hwn yn mynd i fod fan hyn.
Fi bach yn grac i ffindo mas fod cwmniau teledu yr UDA wedi penderfynnu rhoi terfyn ar Invasion. O’n i’n mwynhau Invasion, rhaglen anarferol, un meddylgar gyda’r cymeriadau’n datblygu’n araf, ac arch y stori yn datblygu dros y gyfres gyfan, gorffen gyda hymdingar o cliffhanger, jyst i glywed na fydd ateb i’r holl gwestiynau!
Y peth sy’n gwneud hyn yn waeth yw fod y fath gachu yn cael eu taflu mas yn wythnosol, enghraifft amlwg yw Charmed. Mae Alyssa Milano yn gorfforol wyrthiol, un o’r gwrachod mwyaf rhywiol weles i erioed! Mae’r ddwy arall ddim yn salw chwaith. Y broblem yw nid yr eye-candy, ond y faith ei fod yn rhaglen mor gachlyd! Wyth blydi cyfres o’r pwps mwyaf welodd dyn erioed!

Rant drosodd

Invasion (rhan 2)

Mehefin 1, 2006 10:32 gan ceribethlem

Wel mae Invasion ar ben ers dros wythnos bellach. Cyfres deledu wnes i ei fwynhau’n fawr. Roedd fformat y sioe yn galluogi’r cymeriadau i ddatblygu’n araf ac yn llawn mewn ffordd nad yw’n bosib mewn ffilm.

Roeddwn yn hoff iawn o’r suspense yn y gyfres, ac am dipyn nid oeddwn yn siwr os un o’r arwyr neu un o’r dihirod oedd y Sheriff (Underlay). Erbyn diwedd y gyfres roedd y ddau prif gymeriad (yr arwr amlwg, Russell, a’r Sheriff) wedi uno i ymladd yn erbyn y dihiryn.

Cynllun y dihiryn oedd i greu cymaint mwy o hybrids ac y medrai, yn ystod ail storm. Dyma Russell ac Underlay yn gwrthdaro yn ei erbyn. Yn ystod yr ymladd a’r storm saethwyd gwraig beichiog Russell (Larkin) ar ddamwain. Mewn ymgais i’w hachub fe aeth Underlay a hi i’r dwr mewn diweddglo fyddai’n cael ei ddisgrifio fel cliffhanger yn Saesneg. Gorffennodd y gyfres gan adael ni, y gwylwyr, yn ansicr pe bai Larkin wedi ei chymryd a’i throi mewn i hybrid ai peidio. Yna daeth y brif sioc, bydd dim eglurhad yn ystod y tymor nesaf, bydd dim tymor nesaf. Mae Invasion wedi cael ei ganslo. Bydd rant am hyn y tro nesaf i mi gyfrannu.

Marciau: Y gyfres 8/10
Y bobl nath canslo fe 1/10

[O.N. o leiaf mae cyfres 2 o Lost mlaen, a mae Lost yn well na Invasion]

Y Doctor a’r Cynrhon Cymreig

Mawrth 27, 2006 15:55 gan dafydd

Yr wythnos nesaf, mi fydd BBC FOUR yn darlledu stori 6-pennod o Doctor Who, fel rhan o’i wythnos arbennig yn edrych nôl ar y flwyddyn 1973. Jon Pertwee oedd yn chwarae rôl y Doctor yn y flwyddyn yma.

Mae’r stori The Green Death yn cymeryd lle ym mhentre Llanfairfach lle mae’r gwastraff o gwmni cemegion lleol, Global Chemicals, wedi llygru y tir a chreu cynrhon anferth gwenwynig. Yn y cyfamser, mae cyfrifiadur o’r enw BOSS sy’n berchen i gwmni Global wedi mynd yn wallgo ac am orchfygu’r byd (wrth gwrs).

A fydd y Doctor yn gallu achub y dydd unwaith eto? Gwyliwch y pennodau ar BBC FOUR dros dri diwrnod – Ebrill 3ydd i’r 5ed am 19.10 bob nos.

k. J. Parker

Mawrth 21, 2006 21:23 gan ceribethlem

Yn ddiweddar darganfyddais awdur ffantasi newydd, roedd hyn yn beth newydd i mi. Rhoddais gyfle i ffantasi nol yn fy arddegau (ar y pryd roedd rhyw fath o rennaisance ffantasi, gan ddarllen nifer o lyfrau megis rhai Margaret Weiss a Tracy Hickmann. Yn anffodus roeddwn yn teimlo fod rhain yn eithaf diflas, a fod yr holl gymeriadau yn rhai stereotypical ffantasi. Roedd yr hen ddewin, braidd yn ddwl, ond yn gwbod popeth mewn gwirionedd. Y Rhyfelwr mawr cryf, araf braidd, ond calon o aur. Corrach mewn strop ag elf nobl wrth rheswm (er yn draddodiadol yn casau eu gilydd, yn ffrindiau mewn gwirionedd). Ac yna roedd marchog yn brwydro yn erbyn gorffennol anhysbys, ond du. Dewin ifanc wedyn, oedd yn rhoi ei ddoniau hyd a lledrith o flaen ei ffrindiau. I orffen y grwp byddai cymeriad bach plentynaidd, blydi niwsans a bod yn berffaith onest!

Rip off braidd o Lord of the Rings oedd nifer o’r llyfrau ffantasi yma, a rhaid dweud fy mod wedi colli diddordeb yn y maes, ac heb magu ysgogiad i ddarllen Lord of the Rings, heb son am unrhyw beth arall yn y maes.

Rhyw ddwy flynedd yn ol, fodd bynnag fe newidodd hyn, wrth i mi ddod ar draws un o’m hoff awduron i bellach.
Roeddwn wrthi’n potshan rownd Waterstones yn Abertawe (ffordd da o basio prynhawn diflas yn fy marn) pan welais lyfr o’r enw Shadow gan K. J. Parker. wrth i mi godi a darllen cefn y llyfr, fe’m cydiwyd gan wefr. Roedd i’w weld yn syniad hollol newydd ( i mi ta beth). Cydiais yn fy llyfr ac i’r til a mi.
O fewn deuddydd, roeddwn wedi cwpla’r peth ac ishe darllen mwy ganddo.

Yn syml, stori am fachan yn dihuno mewn pwll o fwd a baw a llacs ar ol rhyfel, heb unrhyw gof o bwy ydyw. Wrth i’r stori ddatblygu, mae’n ymddangos y gallai fod yn un o nifer o bethau (gan gynnwys y duw sy’n dod a diwedd y byd!). Darllenais gweddil ei drioleg yn eiddgar, gan fwynhau pob tudalen. Wrth edrych o gwmpas dyma fi’n darganfod trioleg arall ganddo, sef y Fencer Trilogy . Mae hwn eto yn lyfr llawn syniadau diddorol, y syniad canolog i gychwyn y llyfr yw fod cyfreithwyr y ddinas yn penderfynnu tynged achosion trwy frwydro i farwolaeth mewn gornest cleddyfa yng nghrombil y llys. Gwych. Mae’r prif gymeriad (Bardas Loredan) yn un hynod o hoffus, ond eto yn arbennig o ffiaidd yr un pryd. Gwir anti-hero felly.

rwyf wedi darllen y cyntaf o’i gyfres newydd, sef The Engineer Trilogy ac nawr mae angen i mi aros tan gaeaf 2006 am ran dau.

Allai ddim aros cyhyd. Bydd rhaid ail-ddarllen y ddau drioleg arall.

Oes Aur yr awduron gwyddonias

Chwefror 21, 2006 18:47 gan ceribethlem

Pan ddechreuais i ddarllen llyfrau gwyddonias gyntaf, awduron megis Isaac Asimov, Robert A. Heinlein, Arthur C. Clark, ymysg eraill, byddai’n denu fy sylw. Roedd y llyfrau hyn yn rhai byddai’n trafod syniad yn bennaf, gyda’r plot a’r cymeriadu yn helpu i ddatblygu’r syniad yma ymhellach. Yn aml iawn byddai’r cymeriadau yn rhai eithaf dau-dimensiwn, hynny yw heb eu datblygu’n gynhwysfawr. Ar y pryd doedd hyn ddim yn achosi problem enbyd, gan fod y dychymyg tu ol i’r syniad yn ddigonol i gynnal y wefr wrth ddarllen.

Yn y blynyddoedd dilynnodd y camau cyntaf hynny i fyd y gwyddonias, rwyf wedi dod ar draws nifer i awdur newydd a chyffrous, sydd yn llawn syniadau fel y cewri a fu, ond hefyd yn datblygu’r cymeriadau a’r plot i raddau helaeth hefyd. Rhai o’m hoff awduron bellach yw Christopher Priest, John Meaney ac Ian M Banks. Mae’r awduron yma yn llwyddo i ddatblygu syniad cymleth a’i chynnal drwy plot a chymeriadu o safon.
Serch hynny ar adegau mae angen darllen llyfr sydd a neges neu syniad ynddo, heb feddwl yn ormodol am y plot a’r cymeriadu, ac i wneud hynny rhai dychwelyd i awduron yr Oes Aur.

Invasion

Ionawr 8, 2006 12:58 gan ceribethlem

Rhaglen gwyddonias newydd yn dechrau ar C4 heno, sef Invasion. Byddai’n rhoi adolygiad ohono ar ol ei weld. O’r hyn rwy’n deall hyn yma, rhyw fath o riff ar thema Invasion of the Body Snatchers yw hi. Mae’r gyfres wedi cael adroddiadau da iawn yn yr Unol Daleithiau, felly cawn weld beth yw’r safon pan fydd hi mlaen heno.