January 6, 2006 13:11 gan Seren Siwenna
Darllenais a diddordeb sylwadau Ceribethlem ynglŷn a’r episode gwych o Dr.Who ar diwrnod ‘dolig cŵ. (Rhagfyr 26, 2005 12:02)
Fel unrhyw nyrd werth ei halen, wnes i hefyd pigo fynnu ar y gwrogiad (ai dyma’r air cywir?) i Star Wars pan dorwyd llaw y doctor ffwrdd a la Luke vs Vader, ac hefyd y modd iwniqe na’ o cau drws trwy taflu rhywbeth tuag at y bwtwm…ac, wrth gwrs, yn taro’y targed tro cynta’!! Ond o ni ddim cweit mor craf a ceri nath sylwi ar y gwn laser mawr - Da iawn ti hogyn!
Oedd yna ‘tip o’r cap’ i Indiana Jones hefyd, neu ydw i yn cymysgu a rhywbeth arall? Hefyd, a oedd y gwrogiad i Star Wars yn bwrpasol fellu? Neu jest byr o amser oedd y cynhyrchwyr ac fellu wnaethant dygyd steil a scenarios o Star Wars?
Roeddwn i wrth fy modd a David Tennant, llawer iawn gwell na Eccleston o ni yn meddwl. Edrych ymlaen i weld be’ mae nhw’n gwneud a’r rhaglen Torchwood!
Postiwyd yn Dr Who, Teledu | Dim Sylwadau »
December 26, 2005 12:02 gan ceribethlem
Dydd Nadolig wedi dod a mynd. Anrhegion wedi eu hagor, beth arall oedd i’w wneud? Edrych ar Dr Who wrth gwrs. Oedd y mrawd nol am y ‘dolig, ac oedd e ddim yn rhy siwr o’r syniad o wylio Dr Who. Dyw e heb gweld dim o’r gyfres newydd ac felly oedd e’n cofio Dr Who fel plentyn. Cysgu nath e’ drwy’r holl beth.
Weles i fe ta beth. Gwd thing o’n i’n meddwl, David Tennant yn neud jobyn reit dda o fod yn Ddoctor, ddim yn rhy debyg i Ecclestone, ac felly yn dod ac agweddau newydd i’r cymeriad. Ambell beth gwleidyddol ynddo fe hefyd (tic mawr i Russel T felly) megis y rhan lle roedd Harriett Jones yn gwrthod gadael i’r Unol Daleithiau gymryd drosodd ac arwain y byd i ryfel yn erbyn y bois drwg.
Ar y diwedd wedyn roedd y rhan am Torchwood (sydd o bosib yn mynd i fod yn spin-off yn cynnwys Captain Jack glywes i) yn ddiddorol, am un peth mae hi wedi dangos y ffordd mae Harriett Jones wedi newid ers iddi fod mewn pwer, a’r bwlch sy’n tyfu rhyngddi hi a’r doctor. Y rhan mwyaf diddorol i fi oedd y gwn laser mawr nath saethu’r bois drwg. Ble gwelwyd hwn o’r blaen? I ffanatig Star Wars megis myfi, nid cwestiwn caled mohono, dyma’r gwn laser mawr oedd yn ganolog i’r ddau Death Star, yn A New Hope a Return of the Jedi! Ac wrth gwrs fe dorrwyd llaw y doctor bant mewn brwydr cleddyf lan yn y cymylau, Cloud City, Bespin yn Empire Strikes Back. Y trydydd cysylltiad amlwg gyda Star Wars oedd pan daflodd y doctor yr oren at y botwm i ladd y bachan drwg, roedd hwn yn atgoffa dyn o’r brwydr rhwng Luke Skywalker a’r Rancor yn Return of the Jedi lle mae Luke yn taflu penglog at fotwm ar y wal i ollwng y drws ar wddf y Rancor.
Fi’n siwr bydd mwy am y doctor newydd wrth i’r gyfres newydd agosau yn y gwanwyn. Un peth bach, cofiwch, bydd y Cybermen nol. Gwd nawr.
Postiwyd yn Adolygiad, Dr Who, Teledu | Dim Sylwadau »
December 22, 2005 21:39 gan ceribethlem
Pan o’n i’n ddisgybl yn yr ysgol, ges i waith cartref wrth yr athrawes Saesneg i ysgrifennu gwerthfawrogiad o nofel glasurol.
Y nofel nes i ddewis oedd Dune gan Frank Herbert, nofel nath ennill y wobr Hugo a’r wobr Nebula am y nofel gorau. Oedd yr athrawes Saesneg o’r farn mai nid nofel glasurol oedd hi oherwydd nid nofel megis Dickens, Bronte ac yn y blaen oedd him; fy nadl i oedd mai nofel glasurol oedd hi oherwydd y gwobrau yma.
Pam fod Dune yn gwneud cystal llyfr felly?
Mae nifer o agweddau yn perthyn i’r nofel yma, mae’r stori yn un cryf, bachgen ifanc, nobl yn derbyn ei dynged ac i wireddu’r broffwydiaeth drwy arwain ei bobl (mabwysiedig) i ryddid.
Mae mwy i’r nofel yma na stori yn unig fodd bynnag, mae cymlethdod gwleidyddol a’r math o back-stabbing sy’n cael ei weld mewn gwleidyddiaeth yn bodoli yn y llyfr. Mae’r ymerawdwr yn rhoi’r poisoned chalice i Duke Atreides i roi terfyn ar ei boblogrwydd.
Yn y nofel mae yna grefydd diddorol, mae’r elfen Cristnogol yn cael ei gynrychioli gan yr Orange-Catholic Bible, sy’n cyfleu’r syniad fod y math o ddrwgdeimlad a welir mewn llefydd megis Gogledd Iwerddon yn rhywbeth a fodolwyd yn y gorffennol yn unig. Mae brodorion (y Fremen) y blaned (Dune neu Arrakis) yn amlwg yn bobl sydd wedi eu dylanwadu gan ddiwylliant a chrefydd yr Arabiaid.
Mae’r holl eco-system yn perthyn i blaned Arrakis yn un diddorol a chymleth hefyd. A ddylid ceisio dyfrhau’r blaned? Os felly bydd y gallu i deithio rhwng y ser yn diflannu. Os nad yn dyfrhau’r blaned ni fydd holl freuddwydion a proffwydaethau’r Fremen yn cael eu gwireddu.
Yr unig ffordd o fedru cyfleu yn llwyr y raddfa epig a mawreddog sy’n bodoli yn y nofel yma yw trwy ei ddarllen hi. Joiwch!
Postiwyd yn Adolygiad, Nofel | 1 Sylw »
December 20, 2005 20:38 gan dafydd
Wrth i’r bennod Nadoligaidd o Dr Who agosau, mae’r BBC yn parhau i roi fwy o gliwiau i ni drwy roi dolen i wefan Guinevere - cynllun gan dîm o Brydain i ddanfon chwiledydd gofod i’r blaned Mawrth.
Mae’n edrych fel fod y stori wedi’i seilio ar prosiect y Beagle2 ond yn lle Prof. Colin Pillinger gyda’i sideburns mawr mae’r wefan yn rhoi hanes Professor Daniel Llewellyn a’i farf - rhan sy’n cael ein chwarae gan ‘ein Daniel Evans ni’.
Mi fydd y bennod yn cael ei ddarlledu ar nos Sadwrn (dydd Nadolig) am 19:00 ar BBC ONE, ac ar BBC THREE ar Ionawr 1af.
Postiwyd yn Dr Who, Teledu | Dim Sylwadau »
December 20, 2005 20:23 gan dafydd
Ar ddydd Iau, Rhagfyr 22ain fe fydd arddangosfa am y Doctor yn agor yng Nghaerdydd - mae’r mynediad am ddim a fe fydd yn para am ddwy fis.
Cynhelir yr arddangosfa yng Nghanolfan Red Dragon ym Mae Caerdydd. Fe fydd cyfle i weld hanes y gyfres a’r cymeriadau dros 40 mlynedd ynghyd a gelynion pennaf y Doctor - y Daleks. Ar ôl i’r bennod arbennig gael ei ddarlledu ar ddiwrnod Nadolig fe fydd rhai o wisgoedd a phrops y bennod hynny i’w gweld hefyd.
Postiwyd yn Dr Who | Dim Sylwadau »
December 12, 2005 12:26 gan Seren Siwenna
Helo a chroeso i Bodio’r Bydysawd, gwefan i ddathlu Gwyddonias/ Ffuglen gwyddonol trwy gyfrwng y gymraeg. Y mae’r seiat yn newydd sbon ac felly nid oes llawer arni ar hyn o bryd ond gobeithiwn, hefo eich cefnogaeth chi, y bydd hi fel mos eisley yma erbyn y flwyddyn newydd!
Danfonwch storiau fer gwyddonias, sylwadau ac erthyglau i ni yma a chawn ddechrau pennod newydd ym myd ffuglen gwyddonol….y dimensiwn Cymraeg - gawn i weld be’ sy’ allan yna - engage!
Postiwyd yn Cyffredinol | 2 Sylw »